1. Mae'r papur yn nodi cylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
2. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi ei gylch gorchwyl.
3. Mae rheolau a gweithdrefnau'r Senedd wedi'u nodi yn y Rheolau Sefydlog. Mae Rheol Sefydlog 16.1 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd sefydlu pwyllgorau a chanddynt bŵer yn eu cylchoedd gorchwyl i:
“(i) archwilio gwariant, trefniadau cyllido, gweinyddiaeth a pholisi’r llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi;
(ii) archwilio deddfwriaeth;
(iii) ymgymryd â swyddogaethau eraill a bennir yn y Rheolau Sefydlog; a
(iv) ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru.”
4. Drwy wneud hyn, mae'n rhaid i'r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pob un o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus cysylltiedig, ynghyd â phob mater sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, yn destun gwaith craffu gan bwyllgorau.
5. Cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fel y cytunodd y Senedd arno ar 23 Mehefin 2021, yw:
− Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.
6. Mae Rheol Sefydlog 22.2 yn datgan:
22.2 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol:
(i) mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau bod Aelod heb gydymffurfio:
(a) â Rheol Sefydlog 2;
(b) ag unrhyw benderfyniad gan y Senedd ynglŷn â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau;
(c) â Rheol Sefydlog 5;
(ch) ag unrhyw benderfyniad gan y Senedd ynglŷn â safonau ymddygiad yr Aelodau;
(d) ag unrhyw god neu brotocol a wnaed o dan Reol Sefydlog 1.10 ac yn unol ag adran 36(6) o’r Ddeddf; (dd) â Rheol Sefydlog 3; neu
(e) â Rheol Sefydlog 4, ymchwilio i’r gŵyn, cyflwyno adroddiad arni ac, os yw’n briodol, argymell camau mewn perthynas â hi;
(ii)ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol;
(iii)goruchwylio’r trefniadau ar gyfer llunio Cofrestr Buddiannau’r Aelodau, y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu Gyda Chymorth Arian y Comisiwn, y Cofnod o Amser y bydd Aelodau yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy a’r Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau, a ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnodion, a’r trefniadau ar gyfer cadw’r Gofrestr a’r Cofnodion a sicrhau eu bod yn hygyrch; (iv)sefydlu a gosod gerbron y Senedd weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gŵynion o dan Reol Sefydlog 22.2(i).
7. Mae manylion pellach am rolau a chyfrifoldebau ehangach pwyllgorau'r Senedd wedi'u nodi yn adroddiad y Pwyllgor Busnes, a osodwyd gerbron y Senedd ar 23 Mehefin 2021.